Senedd Cymru

Welsh Parliament

Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau

Economy, Infrastructure and Skills Committee

Effeithiau COVID-19: Galwad Agored am dystiolaeth a phrofiadau

Impacts of COVID-19: Open Call for evidence and experiences

EIS(5) COV – 16

Ymateb gan: Cymdeithas Cludiant Cymunedol

Response from: Community Transport Association

 

 

 

Ymchwiliad pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau i effeithiau COVID19

Ymateb gan y Gymdeithas Cludiant Cymunedol  

 


<Cyflwynir yr ymateb hwn gan y Gymdeithas Cludiant Cymunedol (CTA), elusen sy'n weithredol ar draws y DU ac yn gweithio gyda miloedd o elusennau a grwpiau cymunedol eraill ledled y DU sydd yn darparu gwasanaethau cludiant lleol sy'n cyflawni pwrpas cymdeithasol ac yn rhoi budd cymunedol. Rydym yn cefnogi darparwyr cludiant cymunedol ledled Cymru ac yn gweithio gydag ystod o randdeiliaid allweddol i hyrwyddo'r sector a chodi safonau. Mae cludiant cymunedol yn helpu gydag ansawdd, fforddiadwyedd a hygyrchedd opsiynau cludiant i bobl nad ydynt yn gallu gyrru ac nad oes ganddynt fynediad at drafnidiaeth gyhoeddus gonfensiynol. Mae hyn golygu darparu atebion hyblyg a hygyrch dan arweiniad y gymuned er mwyn ymateb i anghenion cludiant lleol sydd heb eu diwallu, ac yn aml dyma'r unig ffordd o deithio i lawer o bobl sydd wedi'u hynysu ac sy'n agored i niwed.

 

 

 

 

Cyflwyniad

 

Yn yr un modd â sectorau eraill, mae coronafeirws wedi achosi newid enfawr yn y ffordd y mae gwasanaethau cludiant cymunedol yn gweithredu.  Ers cyflwyno'r cyfyngiadau symud, rydym wedi gweld cwymp sylweddol yn y galw am wasanaethau cludiant cymunedol traddodiadol fel cludiant galw'r gyrrwr, gwasanaethau cludiant grŵp, contractau ysgol, gwasanaethau bysiau cymunedol a chynlluniau ceir cymunedol.

O ystyried bod y rhan fwyaf o yrwyr a theithwyr cludiant cymunedol yn dod o fewn categori'r boblogaeth sydd â risg uchel o ddal coronafeirws, roedd gweithredwyr cludiant cymunedol ymhlith y cyntaf i deimlo effaith cyfyngiadau COVID19.  Pan nodwyd bod pobl dros 70 oed yn y categori 'mwyaf agored i niwed' a gofyn iddynt gadw at y mesurau cadw pellter cymdeithasol mwyaf llym, daeth llawer o wasanaethau cludiant cymunedol i stop wrth i weithredwyr golli eu teithwyr, eu staff a'u gwirfoddolwyr dros nos. 

Er bod y galw am gludiant sy'n gysylltiedig ag iechyd wedi gostwng, dyma'r gwasanaethau y cafwyd y lleiaf o effaith arnynt ac mae rhai gweithredwyr wedi newid pwyslais eu darpariaeth er mwyn rhoi cymorth pellach i Fyrddau Iechyd ac Ambiwlans Cymru yn benodol trwy ddarparu cludiant i gleifion sy'n mynd at wasanaethau oncoleg a dialysis.

Yn ystod y cyfnod hwn sydd â llai o alw am gludiant i deithwyr, mae'r sector cludiant cymunedol wedi addasu ei wasanaethau.  Yn aml, cyfeirir at gludiant cymunedol fel 'achubiaeth' ac mae hyn wedi bod yn amlycach nag erioed yn ystod yr argyfwng hwn.  Addasodd ein haelodau yn gyflym i'w hamgylchedd gweithredu, gan ymgymryd â gweithgareddau newydd fel 'siopa a gollwng', casglu a dosbarthu presgripsiynau, cyfeillio dros y ffôn ac ati.  Yn enghraifft Cynllun Car Cymunedol Bridges yn Sir Fynwy, penderfynodd y sefydliad atal gwasanaethau cludiant a chanolbwyntio ar gyfeillio dros y ffôn yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud.  Mae'r gwasanaeth hwn wedi ehangu i gynnwys 130 o wirfoddolwyr ychwanegol a 100 o ddefnyddwyr gwasanaeth newydd, gan baru pobl yn ôl lleoliad i'w galluogi i barhau i gynnal y berthynas wrth i reolau'r cyfyngiadau symud gael eu llacio. 

At ei gilydd, mae'r newid dull yn golygu bod gwaith allweddol y sector yn lleihau unigrwydd ac ynysu ac yn darparu system rhybuddio cynnar ar gyfer materion iechyd neu’n seinio rhybudd wrth i bobl gwympo ac ati wedi gallu parhau.

 

Effaith ariannol

 

Er bod canllawiau Llywodraeth Cymru ar dalu Grant Cymorth Gwasanaethau Bws (BSSG), tocynnau teithio rhatach a chontractau cludiant ysgol yn brydlon ac i'w croesawu, fel pob gweithredwr trafnidiaeth, mae ein haelodau wedi colli'r holl incwm a gynhyrchir ganddynt eu hunain yn sgil colli'r galw am wasanaethau galw'r gyrrwr neu logi gan grwpiau ac maent hefyd wedi gweld gostyngiad mewn rhoddion elusennol (mewn rhai achosion, mae apeliadau wedi helpu i gryfhau'r llif incwm hwn).  Er nad yw sefydliadau'n gweithredu eu gwasanaethau arferol (ac mewn rhai achosion, ddim yn gweithredu o gwbl), mae ganddyn nhw gostau sefydlog y mae'n rhaid eu talu o hyd. 

 

Er mwyn lliniaru'r effaith ariannol, mae llawer o sefydliadau'n tynnu ar eu cronfeydd wrth gefn, yn defnyddio'r Cynllun Cadw Swyddi, ac yn cyflwyno ceisiadau am arian grant.  Fodd bynnag, mae pen draw i gynaliadwyedd y mecanweithiau goroesi hyn - mae cronfeydd wrth gefn yn gyfyngedig ac mae lleihad yn y cronfeydd a neilltuwyd ar gyfer anghenion y dyfodol, megis ar gyfer cynnal a chadw'r fflyd a chael cerbydau newydd.  Disgwylir i'r Cynllun Cadw Swyddi ddod i ben yn ystod y misoedd nesaf, gan adael sefydliadau cludiant cymunedol yn ysgwyddo'r pwysau o dalu staff er gwaethaf gostyngiad enfawr mewn incwm a bydd hyn yn anodd iawn i sefydliadau ei ysgwyddo.  O ran ceisiadau grant, yr adborth gan aelodau yw bod ffurflenni yn gymhleth i'w llenwi ac yn ddryslyd i'w deall.

 

Yn anffodus, bydd y problemau hyn yn parhau ymhell y tu hwnt i unrhyw lacio ar y cyfyngiadau symud, o gofio na fydd y perygl o'r firws yn cael ei ddileu i weithwyr a theithwyr risg uchel y sector nes y bydd brechlyn yn cael ei ganfod.  At hynny, oherwydd yr angen parhaus i gadw pellter cymdeithasol, bydd hyn yn lleihau capasiti cerbydau cludiant cymunedol yn sylweddol.  Mae sefydliadau yn rhagweld y bydd capasiti bysiau mini oddeutu 30% yn unig (e.e. mae'n debygol mai tua 5-6 o deithwyr yn unig y bydd bws mini 16 sedd yn gallu eu cludo), ac mae diogelwch cynlluniau ceir yn dal yn destun trafodaeth.  At hynny, bydd y mesurau glanhau a hylendid ychwanegol y mae angen iddynt fod ar waith oherwydd COVID19 yn cynyddu cost darparu gwasanaethau.

 

Mae sicrhau cynaliadwyedd ariannol y sector yn brif flaenoriaeth i ni er mwyn lliniaru unrhyw effeithiau negyddol yn y tymor canolig i'r tymor hir.  Er ein bod yn croesawu'r parhad mewn cyllid grantiau yn seiliedig ar niferoedd teithwyr y llynedd, rydym yn disgwyl y bydd y sector yn arafach yn dod yn ôl at ei hun na gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus prif ffrwd oherwydd mai teithwyr bregus yw prif ddefnyddwyr y gwasanaethau.  Rydym yn pryderu, er bod gweithredwyr wedi addasu eu darpariaeth i ddiwallu anghenion y cyfnod sydd ohoni, y gallai fod cyfyngiad ar yr amser y mae awdurdodau'n barod i ddefnyddio cyllidebau trafnidiaeth i ariannu gwasanaethau nad ydynt yn gludiant i deithwyr.

 

Rydym yn cydnabod bod hinsawdd cyllid cyhoeddus yn debygol o fod yn heriol am rai blynyddoedd i ddod o ganlyniad i'r gwariant brys ychwanegol ar yr ymateb i argyfwng.  Mae hyn yn debygol o roi pwysau cynyddol ar wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus, a oedd hyd yn oed cyn COVID yn aml yn derbyn cymhorthdal mawr neu ar yr ymylon o ran bod yn hyfyw.  Yn aml, gwelwn mai at gludiant cymunedol y bydd pobl yn troi pan fydd gwasanaethau cludiant eraill wedi methu, felly er mwyn caniatáu cynllunio priodol ar gyfer y dyfodol, dylai Llywodraeth Cymru fod yn ymgysylltu â'r sector cludiant cymunedol a phartneriaid trafnidiaeth eraill nawr ynglŷn â dyfodol trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru fel bod modd gwneud cynlluniau addas i sicrhau y gall cysylltiadau cymunedau barhau. Mae angen i'r Llywodraeth gydnabod bod gan y sector cludiant cymunedol ran hanfodol i'w chwarae yn y cyfnod adfer a bydd angen iddi sicrhau bod y sector yn cael cymorth i oroesi yn yr amgylchiadau presennol ac addasu eu gweithrediadau i ateb gofynion y dyfodol.

 

Argymhelliad 1:Dylai Llywodraeth Cymru gynnal trafodaethau gyda'r sector cludiant cymunedol a phartneriaid trafnidiaeth eraill er mwyn sicrhau bod cynlluniau cadarn ar waith i sicrhau rhwydwaith trafnidiaeth sy'n addas ar gyfer y dyfodol.

 

Argymhelliad 2: Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod y sector cludiant cymunedol yn cael cymorth ariannol er mwyn sicrhau gwasanaethau sy'n rhoi 'achubiaeth' ar gyfer heddiw ac yfory. 


 

Mynediad i drafnidiaeth

 

Mae'r sector cludiant cymunedol yn arbenigo mewn ateb gofynion trafnidiaeth mewn modd hygyrch gyda chyfran uchel o'r cerbydau yn hygyrch i gadeiriau olwyn a gwasanaethau'n cael eu darparu i'r rheini sydd ag anawsterau symudedd. 

Hyd yn hyn, ni chyhoeddwyd unrhyw ganllaw gan y Llywodraeth ar gyfer cludo defnyddwyr cadeiriau olwyn na darparu cymorth i deithwyr.  Rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru weithio gyda ni i ddatblygu canllawiau swyddogol ar gyfer gweithredwyr cludiant cymunedol.

 

Argymhelliad 3: Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod arweiniad arbenigol ar gael i weithredwyr sy'n darparu gwasanaethau cludiant i grwpiau sy'n agored i niwed.  

 

 

Symud ymlaen

 

O ran symud ymlaen, credwn fod cludiant cymunedol yn gyfle i 'ailadeiladu'n well' trwy ddarparu modelau trafnidiaeth nid-er-elw sydd wedi'u seilio yn y gymuned, cydberchnogaeth, a thrafnidiaeth sy'n ymateb i'r galw yn hytrach na dychwelyd i'r status quo blaenorol.  Mae cyfle hefyd i barhau i weithio gyda'r bobl hynny sydd wedi ymuno â'r sector fel gwirfoddolwyr trwy gydol yr argyfwng hwn a'u hysbrydoli i chwarae rhan weithredol yn llywio natur y cymunedau maen nhw am fyw ynddynt.  Dylid ystyried y cyfleoedd sy'n cael eu creu gan gludiant cymunedol ynghyd â'r gwerth a ddarperir gan y sector am bob punt a werir wrth wneud penderfyniadau ynglŷn â dyrannu cyllidebau.  Ers 2017, mae prosiect CTA, Cysylltu Cymunedau yng Nghymru wedi cynorthwyo'r sector i ddenu cyllid ychwanegol o £2m ar sail buddsoddiad o £300,000.  Dylai galluoedd y sector fod yn ystyriaeth ganolog i unrhyw benderfyniadau cyllido wrth symud ymlaen.

 

Mae ein haelodau yn arbenigwr ar ddarparu Trafnidiaeth sy'n Ymateb i'r Galw trwy ystod o gerbydau ac mae hynny’n cynnig ateb defnyddiol i'r her bresennol sy'n wynebu gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus.  Mewn modelau sy'n ymateb i'r galw, rhaid i wasanaeth gael ei archebu ac felly mae'n gwarantu y bydd y daith yn digwydd.  Yn ystod y cyfnod hwn lle mae llai o gapasiti ar drafnidiaeth gyhoeddus yn ei chyfanrwydd, mae gweithredwyr cludiant cymunedol mewn sefyllfa dda i wasanaethu cynulleidfa newydd wrth i bobl ddechrau dychwelyd i'r gwaith a'r ysgol.

 

Argymhelliad 4: Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod yr holl wasanaethau trafnidiaeth sy'n ymateb i'r galw presennol yn cael eu cynyddu i'r eithaf er mwyn ehangu'r capasiti cyfredol ar draws y rhwydwaith trafnidiaeth.

 

Argymhelliad 5: Dylid diweddaru strategaeth cludiant cymunedol Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod capasiti yn y sector yn cael ei ddefnyddio'n llawn a bod sefydliadau'n cael cymorth i dyfu er mwyn darparu atebion trafnidiaeth nid-er-elw hyblyg, ymatebol i'r galw sydd o fudd i bobl Cymru.

 

 

Iechyd ac addysg

 

Mae cludiant cymunedol yn cynnig gwasanaethau i filoedd o ddefnyddwyr ledled y DU nad oes ganddynt unrhyw fodd arall i gael mynediad at drafnidiaeth ac mae'n sicrhau y gall unigolion deithio at wasanaethau iechyd. Trwy alluogi teithwyr i gyrraedd gofal meddygol a chael budd ohono mewn modd amserol, mae hyn yn atal gwaethygu afiechyd ac yn ymestyn yr amser y gall pobl aros yn iach ac yn egnïol yn eu cartrefi eu hunain cyn bod angen dibynnu ar y sector gofal cymdeithasol.  Mae hefyd yn lleihau'r galw am wasanaethau gofal cartref gan fod cludiant cymunedol yn darparu opsiwn diogel a hygyrch i bobl fynd i apwyntiadau yn hytrach na bod angen ymweliadau cartref ac mae'n lleihau nifer yr apwyntiadau a gollir.

 

Un fenter a sefydlwyd yn ddiweddar yw Cynllun Car Cymunedol Conwy Gwledig, 'Car y Llan', a ddatblygwyd gyda chefnogaeth gan ein prosiect Cysylltu Cymunedau yng Nghymru (CCiW) mewn ymateb i angen a nodwyd gan glwstwr o feddygfeydd yng Nghonwy.  Gyda chymaint o apwyntiadau gofal sylfaenol ac eilaidd yn cael eu colli (achosion sy'n cael eu hadnabod gan feddygon teulu fel apwyntiadau 'Heb eu Mynychu' (DNA)), cysylltodd Rheolwyr y Meddygfeydd yn y clwstwr â Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy (CGGC) er mwyn ystyried y posibilrwydd o ddatblygu cynllun newydd i helpu cleifion i gyrraedd eu hapwyntiadau yn haws.  Trwy weithio gyda phrosiect CCiW, llwyddodd CGGC i ganfod ffynonellau cyllid a chyflwyno cynigion a sicrhaodd gyfanswm o £150,000.  Bellach mae gan y cynllun gerbyd ac mae'n cyflogi cydlynydd cludiant sy'n trefnu teithiau ar gyfer cleifion sy'n mynychu apwyntiadau meddygol.

 

Er nad oes unrhyw ddata wedi'i gyhoeddi ar apwyntiadau gofal sylfaenol, wrth ddatblygu'r prosiect, canfu CGGC fod cleifion o Orllewin Conwy yn colli tua 52,800 o apwyntiadau gofal eilaidd gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn 2015-16, ar gost amcangyfrifedig o £9.56m. Mae Rheolwyr y Meddygfeydd yn amcangyfrif bod dros 10% o'r apwyntiadau hyn wedi'u colli oherwydd diffyg opsiynau cludiant hwylus yn yr ardal. Mae anghenion symudedd ychwanegol a diffyg trafnidiaeth gyhoeddus yn golygu bod trigolion yn ddibynnol iawn ar y teulu, ffrindiau a chymdogion i gyrraedd apwyntiadau. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu bod pobl yn aml yn gwneud dewisiadau o ran yr help y maent yn gofyn amdano, gan aberthu eu hiechyd meddwl o bosibl trwy beidio ymweld â ffrindiau er mwyn mynychu apwyntiadau ysbyty rheolaidd.

 

Yn ychwanegol at hynny,  mae llawer o bobl yn dibynnu ar gludiant cymunedol, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, i gael mynediad at addysg a gwaith, naill ai trwy wasanaethau bws wedi'u hamserlennu sy'n cyd-fynd â'r diwrnod ysgol neu'n ffitio gyda sifftiau cynnar neu hwyr, neu trwy gynlluniau Olwynion i'r Gwaith.  Mae hyn yn cael effaith ar iechyd meddwl a lles trwy gynorthwyo unigolion i gael mynediad at waith a sicrhau incwm. 

 

Mae'r cyfraniad a wneir gan y sector cludiant cymunedol yn cynorthwyo unigolion i gael mynediad at wasanaethau iechyd yn sylweddol a dylid ystyried y gwerth ychwanegol hwn wrth wneud penderfyniadau cyllido.

 

Mae'r cyhoeddiad a wnaed gan y Gweinidog Addysg yn ddiweddar ynglŷn ag ailagor ysgolion a'r sioc ddilynol yn y diwydiant bysiau yn amlygu'r angen am waith trawsadrannol mwy effeithiol.  O safbwynt y sector cludiant cymunedol, mae cyllid a gyrchir trwy gyllidebau trafnidiaeth yn sicrhau gweithrediadau sydd wedyn yn gallu darparu cludiant ysgolion a chludiant ar gyfer gwasanaethau iechyd.  Rydyn ni'n rhagweld y gallwn weld amser pan fydd adrannau trafnidiaeth yn amharod i ddarparu cyllid i weithredwyr ddarparu gwasanaethau nad ydynt yn gludiant i deithwyr.  Os bydd hyn yn digwydd, bydd yn cael effaith ar yr ystod o wasanaethau a ddarperir gan y sector a chyn gwneud y penderfyniadau hyn, dylai Llywodraeth Cymru weithio gydag Adrannau eraill er mwyn sicrhau bod yr effaith lawn wedi ei deall a chymryd camau i liniaru lle bo hynny'n bosibl.

 

Argymhelliad 6: Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau gwaith trawsadrannol effeithiol er mwyn sicrhau bod gwerth llawn cludiant cymunedol yn cael ei ystyried wrth wneud penderfyniadau cyllidebol.